Lleoliad:
Fideo Gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 18 Mehefin 2020
Amser:
09.00 -
12.27
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6357
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AS (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AS Jayne Bryant AS Angela Burns AS Lynne Neagle AS David Rees AS |
Tystion: |
Syr David King, Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau Annibynnol (SAGE) Yr Athro Deenan Pillay, Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau Annibynnol (SAGE) |
Staff y Pwyllgor: |
Sarah Beasley (Clerc) Claire Morris (Ail Glerc) Lowri Jones (Dirprwy Glerc) Dr Paul Worthington (Ymchwilydd) Lucy Morgan (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
2 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitemau 3 a 4
2.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 3 a 4.
3 Covid-19: Trafod materion allweddol ar gyfer yr adroddiad drafft
3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y materion allweddol sydd i'w cynnwys yn yr adroddiad drafft a bydd yn trafod yr adroddiad drafft yr wythnos nesaf.
4 Trafod y flaenraglen waith
4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y flaenraglen waith hyd at ddiwedd tymor yr haf.
5 Covid-19: Sesiwn dystiolaeth gyda chynrychiolwyr y Grŵp Cynghori Gwyddonol Annibynnol ar Argyfyngau (SAGE Annibynnol)
5.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr SAGE Annibynnol.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
7 Covid-19: Trafod y dystiolaeth
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.